Osu Original

English | Cymraeg

Ein barn ar Osu Original.

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob 100ml: 182

Yn ôl y sôn, mae pobl yn yfed finegr am resymau iechyd mewn sawl rhan o’r byd ers canrifoedd. Ond tua chanol 2021 clywodd llawer o bobl y wlad yma am Osu, a hynny trwy gyfres o hysbysebion teledu difyr.

Hon yw eu diod Wreiddiol. Ystyr hynny yw ei bod wedi’i gwneud o afalau’n unig, heb yr un ffrwyth arall. Diod wych yr olwg yw hi: cymylog gyda lliw mêl tywyll. Mae’n dod mewn potel wych hefyd, gyda lluniau o flodau coed ceirios Japan. Nid yw mor felys â’u diod Llus a Phomgranad, ond nid yw’n hollol finegraidd chwaith, efallai am fod mwy o sudd afal ynddi na finegr.

Yn ogystal â’i hyfed wedi’i chymysgu â dŵr, mae’r gwneuthurwyr yn awgrymu ei defnyddio fel marinâd, ei thasgu dros salad, neu’i chymysgu mewn coctels. Mae wedi’i gwneud â’r “fam”: y bacteria sy’n gwneud finegr trwy droi alcohol yn asid asetig. Yn ôl y sôn, mae’r bacteria yma yn llesol i’n hiechyd, ond mae’r dystiolaeth ar hynny yn bell o fod yn glir.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​