Peroni Nastro Azzuro 0.0%

English | Cymraeg

Ein barn ar Peroni Nastro Azzuro 0.0%.

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.0%

Calorïau ymhob potelaid: 76 (23 ymhob 100ml)

Rhaid bod Peroni yn un o’r cyrfau mwyaf llwyddiannus erioed. O ddechreuadau distadl yn nhreflan Vigevano yn 1846, tyfodd i fod yn un o allforion mwyaf enwog a mwyaf ffasiynol yr Eidal. Mae ar fwydlenni bwytai o Rufain i Ruthun, diolch yn rhannol i ymgyrch marchnata llawn dillad drutfawr, llynnoedd llonydd, a merched prydferth yn hetiau’r llynges.

Mentrodd Peroni i mewn i’r farchnad ddi-alcohol yn gyntaf oll yn 2018, gyda Peroni Libera. Roedd hwnnw’n ddiod ddigon derbyniol ond, fel dwedon ni ar y pryd, doedd e ddim yn debyg o gwbl i Peroni Nastro Azzurro – yn rhy ysgafn ac yn rhy felys. Mae Peroni Nastro Azzuro 0.0% yn gwrw gwell o dipyn. Dyma gwrw melyn dymunol iawn, a gyda dogn o hopys chwerw na chewch chi fel arfer yn niodydd Peroni – tebyg i lager crefftus, efallai

Cwrw gwych yr olwg yw e hefyd. Mae Peroni yn giamstars ar gyflwyno diod yn dda, a dyw hon ddim yn eithriad. Mae’n dod mewn botel werdd hyfryd, wedi’i labelu’n bennaf yn Eidaleg ac yn addo “qualitá superiore…senza alcohol”.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​