Cryfder: 0.5 %
Calorïau ymhob 100ml: 18
Mae’r adolygiad yma wedi’i seilio ar sylwadau tri o’n Lleisiau Lleol penigamp
Lansiwyd Pivot Beer yn 2025 fel trobwynt oddi wrth alcohol a thuag at gymedroli.
Dyma gwrw melyn glân a chroyw, gyda lliw golau a digon o hopys o’r cychwyn cyntaf. Mae diwyg y can yn drwsiadus a di-lol – does dim jôcs a na chartwnau yma!
Mae arogl yr hopys i’w gael cyn gynted ag agorwch chi’r can, ac mae hynny’n parhau yn y gwydryn. Wrth ei dywallt, mae’r ddiod yn fywiog, gyda mymryn o ewyn. Mae’r blas yn ffres ac ysgafn, yn hytrach na chryf a hirhoedlog, er bod tipyn o adflas hopys yn aros. Mae digon o drwch iddo, ac roedd un o leiaf o’n panel profi yn ei weld yn ddigon bras i wneud iddyn nhw anghofio mai cwrw di-alcohol yw hwn.
Mae Pivot wedi creu partneriaid gydag Alcohol Change UK ar gyfer eu hymgyrch Cydweithio er Newid, gan roi £1 at ein gwaith am bob pecyn rhannu maen nhw’n ei werthu.