Red Hog Zero Medium Dry

English | Cymraeg

Ein barn ar Red Hog Zero Medium Dry.

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0%

Calorïau ymhob 100ml: dim gwybodaeth

Mae’r teulu Buckley yn bragu cwrw yng Nghymru ers 1767. Menter fwy diweddar iddyn nhw yw seidr, ac mae eu seidrau Red Hog yn cael eu creu ag afalau o Wlad yr Haf, sir Henffordd a Gororau Cymru – a’r sudd i gyd yn cael ei gymysgu ym mragdy’r teulu yn Llandeilo. Yn 2024, ychwanegwyd dau seidr di-alcohol i’w casgliad: hwn sy’n ganolig o sych, ac un arall gyda ffrwythau’r haf.

Mae seidr di-alcohol a phrin-ei-alcohol yn dueddol o fod weddol o felys, felly mae’r seidr llawer sychach yma yn llenwi bwlch yn y farchnad. Mae ganddo liw euraidd, bron fel ambr. Mae’n fywiog a llawn swigod mân. At ei gilydd, dyma seidr traddodiadol o safon – ond heb yr alcohol!

Mae e wedi’i becynnu’n dda, a’r baedd coch ar y botel yn dwyn i gof chwedl Gymraeg y Twrch Trwyth.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​