Red Hog Zero Summer Fruit

English | Cymraeg

Ein barn ar Redhog Zero Summer Fruit.

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0%

Calorïau ymhob 100ml: dim gwybodaeth

Mae bragdy Evan Evans yn Llandeilo yn fwyaf adnabyddus am greu cyrfau Cymreig o safon, ond maen nhw hefyd yn gwneud seidr, ac yn 2024 lansion nhw ddau seidr di-alcohol: hwn gyda ffrwythau’r haf, ac un arall sy’n ganolig o sych.

Mae seidrau sy’n cynnwys ffrwythau eraill – yn ogystal ag afalau – wedi dod yn fwyfwy poblogaidd yn y blynyddoedd diwethaf. Efallai nad ydyn nhw at ddant caredigion seidr traddodiadol, ond maen nhw wedi denu llawer o bobl newydd i’r farchnad seidr. Mae gan hwn arogl ffrwythus braf, blasau ffrwythau naturiol, a lliw coch dwfn fel ceirios; ac yn wahanol i lawer seidr ffrwythus arall, dyw e ddim yn rhy felys.

Mae pob un o seidrau Red Hog yn ddi-glwten ac yn addas i feganiaid.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​