Remedy Apple Crisp Kombucha

English | Cymraeg

Ein barn ar Remedy Apple Crisp Kombucha.

Sgôr:

5/5

Calorïau ymhob can: 7 (3 ymhob 100ml)
Cryfder: 0%

Wedi’i sefydlu yn 2012, cwmni kombucha yw Remedy a ddechreuwyd gan Sarah ac Emmet Condon yn eu cegin. Amcan syml oedd ganddyn nhw: creu rhywbeth blasus ac iachus.

Wedi’u heplesu am 30 diwrnod, mae eu diodydd i gyd yn ddi-siwgr. Nid bod hynny’n meddwl aberthu blas: dyma ddiod wirioneddol flasus! Wrth ei thywallt, mae mymryn o swigod, a lliw sy’n nodweddiadol o kombucha: melyn gwelw iawn a chymylog braidd. Er bod yr arogl yn ffrwythus iawn, mae’r blas yn fwy finegraidd (ond heb fod yn rhy sur). Perffaith i’r rhai sy’n dwli ar kombucha. Roedd hi’n apelio’n fawr i’n panel profi. Roedden nhw’n ei gweld yn ddiod hawdd ei hyfed – diod dda i’w chael yn lle seidr ym marn rhai. At ei gilydd, braf iawn.

Fel arfer, y cyngor yw i blant neu unrhyw un sy’n feichiog beidio ag yfed kombucha, gan fod y ddiod yn dal i eplesu ac felly gall faint o alcohol sydd ynddi amrywio, er nad yw’n codi uwchben 0.5% fel arfer.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​