Remedy Ginger Lemon Kombucha

English | Cymraeg

Ein barn ar Remedy Ginger Lemon Kombucha.

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob can: 7 (3 ymhob 100ml)

Roedd ein panel profi yn llawn cynnwrf am y ddiod yma gan gwmni Remedy, gan fod lemwn a sinsir fel arfer yn gweithio’n dda iawn gyda blas finegraidd kombucha. Mae hi’n dechrau gydag arogl sinsir trwm. Mae hwn yn llethu’r blasau eraill ar y dechrau; ond wrth lymeitian y ddiod, mae blas y lemwn yn gryf iawn ac yn cydbwyso’r sinsir yn dda. Mae hefyd adflas sinsir a kombucha dymunol. Mae rhai diodydd kombucha yn rhy fyrlymus o dipyn, sy’n gallu eich gadael gyda llond bol o swigod, ond mae hon mor ysgafn fel ei bod yn cyd-fynd yn dda gyda phryd o fwyd.

Fel arfer, y cyngor yw i blant neu unrhyw un sy’n feichiog beidio ag yfed kombucha, gan fod y ddiod yn dal i eplesu ac felly gall faint o alcohol sydd ynddi amrywio, er nad yw’n codi uwchben 0.5% fel arfer.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​