Remedy Peach Kombucha

English | Cymraeg

Ein barn ar Remedy Peach Kombucha.

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob can: 25 (10 ymhob 100ml)

Gan iddyn nhw roi cynnig ar nifer o ddiodydd Remedy o’r blaen, roedd ein panel profi yn llawn chwilfrydedd ynghylch y kombucha yma gydag eirian gwlanog. Mae’n dod mewn can pinc a hufenlliw twt, ac wedi ei thywallt mae ganddi liw gwelw sy’n nodweddiadol o kombucha. Mae arogl eirian gwlanog cryf, gydag awgrym o finegr yn y cefndir. Mae blas yr eirin gwlanog yn gryfach na blas y kombucha, ond mae’r adflas sur yng nghefn eich ceg yn gwneud iddi deimlo mwy fel diod i oedolion. Er ei bod yn felys, mae’n dal i fod yn ddiod ddymunol o adfywiol.

Fel arfer, y cyngor yw i blant neu unrhyw un sy’n feichiog beidio ag yfed kombucha, gan fod y ddiod yn dal i eplesu ac felly gall faint o alcohol sydd ynddi amrywio, er nad yw’n codi uwchben 0.5% fel arfer.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​