Remedy Raspberry Lemonade Kombucha

English | Cymraeg

Ein barn ar Remedy Raspberry Lemonade Kombucha.

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob can: 7 (3 ymhob 100ml)

Gyda’i diwyg pinc a hufenlliw, fel losin hen-ffasiwn, mae golwg can y ddiod yma yn dwyn i gof bwytai gwerinaidd America’r 10950au, gyda seddi hir o ledr coch a jiwbocs. Mae gan y ddiod arogl kombucha cryf, ond Americanaidd yw’r blas, mewn ffordd: tebyg i soda hufennog neu gwmwl siwgr. Er ei bod hi’n gweithio’n dda fel soda, dyw blas y kombucha ddim yn dod drwodd yn dda, ac roedd y melystra’n cuddio’r mafon fymryn hefyd.

Fel arfer, y cyngor yw i blant neu unrhyw un sy’n feichiog beidio ag yfed kombucha, gan fod y ddiod yn dal i eplesu ac felly gall faint o alcohol sydd ynddi amrywio, er nad yw’n codi uwchben 0.5% fel arfer.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​