Sainsbury’s Blackcurrant Spritz

English | Cymraeg

Diod hafaidd sy’n gweithio’n dda ymhob tywydd

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.0%

Calorïau ymhob 100ml: 38

Mae’r ddiod befriog bleserus yma wedi’i gwneud o sudd grawnwin muscat – sy’n rawnwin cyffredin ar gyfer gwneud gwin – ynghyd â sudd cyrens duon.

Ar y blas cyntaf, mae’n debyg braidd i winoedd di-alcohol y gorffennol – fel sudd grawnwin coch, bras a melys. Ond wedyn daw’r swigod bywiog, a brathiad y cyrens duon sur, sy’n gwneud hon yn ddiod fwy diddorol o dipyn.

Yn ôl y broliant ar y botel, diod hafaidd yw hon, a gorau oll ei gweini gyda rhew. Yn ein barn ni, mae hi hefyd yn gweithio’n dda heb ei hoeri gymaint fel llymaid gaeafol llawen.

Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​