Sainsbury’s Red

English | Cymraeg

Gwin coch di-alcohol gyda blasau cyrens duon ac aeron coch

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob gwydryn 250ml: 66

Nid hwn yw ein hoff win coch di-alcohol, ond dyw e ddim yn wael o gwbl. Mae’r label yn addo “blasau hyfryd cyrens duon ac aeron cochion”, ac mae awgrym o leiaf o’r rheini. Gwin Almaenig yw hwn, ac fel llawer i win coch o ogledd Ewrop, mae ychydig yn rhy denau. Bydd hi’n anodd iddo gystadlu gyda gwinoedd coch Awstralia ac America, efallai, ond bydden ni’n awgrymu i chi roi cynnig arno.

Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​