Sam’s Brown Ale

English | Cymraeg

Ein barn ar Sam’s Brown Ale

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob potelaid 75: (21 ymhob 100ml)
Sgôr: 4 o 5

Mae cwmni Samuel Smith yn bragu cwrw yn yr Hen Ogledd ers 1758, yn eu crochanau llechi sgwâr unigryw. Ac roedd eu cwrw yn figanaidd ymhell cyn bod hynny’n ffasiynol. Gan fod ganddyn nhw’r fath hanes o arloesi, nid yw’n syn eu bod nhw wedi ymuno â’r chwyldro di-alcohol.

Pa fath o gwrw yw hwn? Yn syml, cwrw da, di-ffwdan. Yn wahanol i lawer cwrw dirwestol diweddar, nid oes yma ymdrech i fod yn rhyfedd ac annisgwyl. Yr hyn sydd gennyn ni yma yw cwrw tywyll o safon, gyda lliw hardd a blas brag hyfryd. Ar sawl cyfrif, cwrw eithaf tebyg yw e i’w Nut Brown Ale enwog, ond rhy ddengwaith yn llai alcoholaidd.

Fel pob un o gyrfau Samuel Smith, mae wedi’i becynnu’n dda, ac ar y label mae llun siriol a addaswyd o un o bosteri hysbysebu’r bragdy o’r 1950au. Cewch chi Sam’s Brown Ale yn eu tafarndai di-ri, neu’i brynu yn syth o’r bragdy.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​