Savyll Spiced Rum & Cola

English | Cymraeg

Ein barn ar Savyll Spiced Rum & Cola.

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob potelaid: wrthi’n aros gwybodaeth
Sgôr: 3 o 5

Dyma adolygiad gan ein hawdur gwadd Trevor Twohig

Wedi’u creu gan Avnish Babla am ei fod am yfed yn gymedrol ar ôl dod yn dad, mae diodydd Savyll yn honni bod yn “Raenus, Hyderus, Hygyrch”. Maen nhw wedi’u dylunio a’u pecynnu’n dwt a deniadol, gan anelu’n sicr at ben ucha’r farchnad.

Cuba Libre di-alcohol yw’r Spiced Rum and Cola yma, ac mae’n debyg iawn i’r ddiod alcoholaidd gyfatebol. Mae’r arogl yn bwerus: roeddwn i bron â meddwi arno! I mi, mae’n rhy felys o dipyn, ond os ydych chi’n hoffi diodydd melys (a melystra siwgr câns naturiol yw e) efallai mai dyma’r ddiod i chi.

Trueni nad yw’r botel yn dal mwy na 250ml: byddwch chi wedi gorffen yfed y ddiod yn fuan ar ôl i chi ddechrau! Ond os rym-a-chola sbeisiog yw eich dewis ddiod, dylech chi roi cynnig arni!

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​