Silver Frond

English | Cymraeg

Sauvigon Blanc di-alcohol o Seland Newydd

Sgôr:

4/5

Cryfder: llai na 0.5%

Calorïau ymhob 100ml: 18

Daeth ardal Marlborough ar ynys ddeheuol Seland Newydd i’r amlwg ym myd gwin yn gyntaf oll yn yr 1980au gyda’i Sauvignon Blanc nodedig, ac mae hi’n ddiod sy’n mynd yn fwy poblogaidd o hyd. Does dim syndod, felly, i Marks & Spencer ymuno â’r gwneuthurwyr gwin o Seland Newydd Giesen i greu fersiwn di-alcohol ohono.

Dyma win sy’n pwysleisio ei wreiddiau yn Aotearoa – o ran ei enw a diwyg ei botel. Mae gan y ddiod tu fewn i’r botel olwg ac arogl Sauvignon Blanc o Seland Newydd. O ran ei flas, fydd e ddim yn cystadlu â gwinoedd gwyn gorau Marlborough ond mae e lawn cystal â llawer gwin o gryfder arferol o’r ardal. Mae'n ysgafn heb fod yn ddyfrllyd. Mae’r broliant ar y botel yn dweud bod ganddo nodau gwsberis; roeddem ni’ cael mwy o flas afalau gwyrdd – ond rhywbeth miniog a ffres. Yn sicr, dyma ddiod werth rhoi cynnig arni os ydych chi’n un o'r miliynau o bobl ledled y byd sy’n hoff o Savvy B (fel mae rhai yn galw arno) o ochr arall y byd.

Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​