Slange Var

English | Cymraeg

Ein barn ar Slange Var.

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob 100ml: 20

Dyma adolygiad gan ein hawdur gwadd Laurie Pearce, sydd i’w chael ar Instagram fel The Sober Shift.

Crëwyd Slange Var gan Sarah Dougan a Charles Beard yn Glasgow, a daw ei henw o’r llwncdestun Gaeleg “Slàinte mhath!”, sef “Iechyd da!”. Mae wedi’i gwneud o ddŵr Loch Ceiteirein yn yr Ucheldiroedd, sydd i fod yn un o ffynonellau dŵr glanaf Ewrop. At y dŵr glân, croyw yma, ychwanegir mêl, leim ffres a finegr seidr.

Yn fy marn i, mae’r olwg a’r blas sydd arni yn debyg i ddiod lemon gymylog arbennig o grand! Mae’n braf ei bod wedi’i gwneud o gynhwysion lleol, ac rwy’n hoffi’r blas, ond nid digon i ruthro allan a phrynu potelaid, mae’n ddrwg gen i ddweud.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​