Sobour a Chola

English | Cymraeg

Ein Barn ar Sobour and Cola

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob can: 91 (36 ymhob 100ml)
Sgôr: 3 o 5

Hon yw’r ddiod ddi-alcohol gyntaf i ni roi cynnig arni sy’n anelu at lenwi’r bwlch mae Jack Daniels neu Jim Bean fel arfer yn ei lenwi yn y coctel mwyaf Americanaidd oll: Bourbon a chola. Mae hi wedi’i gwneud â fanila o Fadagascar, pren derw o America, cnau rhost, a sbeisiau sych, i gyd wedi’u cymysgu gyda chola o safon. Mae’r blas a’r teimlad yn y geg yn llyfn iawn ac mae awgrym o cream soda – oherwydd y fanila, siŵr o fod. Mae hefyd blas mawn eithaf cryf, mwy fel wisgi Albanaidd nag un Americanaidd, ac efallai na fydd hwnnw at ddant y rhai sy’n chwilio am Bourbon mwyn, hawdd-ei-hyfed.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​