Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob potelaid: 76 (15 ymhob 100 ml)
Sgôr: 5 o 5
Solo Pilsner
English | Cymraeg
Ein barn ar West Berkshire Brewery's Solo Pilsner
Sgôr:
5/5
Dyma adolygiad gan ein hawdur gwadd Alice, sydd i’w cael ar Instagram fel alice_me0w
Bragdy West Berkshire, sy’n creu’r cwrw yma, oedd fy mragdy lleol ar un adeg, wedi’i leoli ym mhentref pert Yattendon yng nghanol cefn gwlad hardd. Mae’r bragwyr yn cyflenwi cwrw a jin i sawl busnes yn y sir ac wedi ennill sawl gwobr am eu diodydd ar hyd y blynyddoedd. Mae eu cwrw enwocaf, Good Old Boy, yn dipyn o ffefryn yn y fro, ac mae eu tafarndai yn cynnig bwydlen boblogaidd hefyd.
Mae eu casgliad Solo o dri chwrw di-alcohol yn ddigon da i dwyllo rhywun i feddwl eu bod nhw’n yfed rhywbeth mwy meddwol! Mae gyda nhw pilsner di-alcohol, pilsner gydag eirin gwlanog, a chwrw gwelw. Ar gyfer yr adolygiad yma, rhoddais i gynnig ar y pilsner. Mae e’n gwynto ac yn blasu yn union fel dylai pilsner. Gallwch chi yfed cryn nifer o’r rhain heb deimlo’n sâl neu gael dannedd blewog (ych!).
Y poteli yw’r peth sy’n gwneud y casgliad Solo mor arbennig i mi! Dwi’n dwli ar y diwyg a’r lliwiau. Dyw e ddim gweiddi’r ffaith mai diod ddi-alcohol yw hon chwaith – yn wahanol i sawl cwrw dirwestol arall, dyw’r label ddim yn las!
Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.