Codau bach Spirits of Virtue: pecyn profi o bump

English | Cymraeg

Ein barn ar Codau bach Spirits of Virtue: pecyn profi o bump

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob 100ml: amrywio rhwng 16 a 43
Sgôr: amrywio rhwng 3 a 5, pob un yn werth ei thrïo

Mae’r pecyn-pump yma gan Spirits of Virtue ar Lannau Clud yn fan cychwyn da i’r sawl sy’n ansicr ble i ddechrau gyda gwirodydd dirwestol. Mae’n cynnwys casgliad o samplau 50ml sy’n rhychwantu’r holl brif fathau o wirodydd, a phob un yn gwbl ddi-alcohol.

  • Mae Pearson’s London Botanic ar gyfer ei hyfed yn lle jin Llundeinig traddodiadol. Mae hi’n ddiod ysgafn ac adfywiol gyda blasau orenau a lemonau, er nad yw’n arbennig o agos at flas jin
  • Mae Pearson’s Hibiscus and Rose yn gymysgedd neis o flasau chwerw a melys sy’n cyd-fynd yn fendigedig gyda thonic
  • Diod debyg i wisgi yw Glen Dochus, ar gyfer ei chymysgu gyda chola neu ddiod sinsir. Roedd y blas mawn dipyn bach yn ormod i ni
  • Diod i’w hyfed yn lle rym tywyll yw 270 West, gyda lliw caramel hyfryd, arogl sbeis cynnes, a blas siwgr tywyll gyda mymryn o tsili
  • Diod i gymryd lle fodca yw Usko, gydag arogl rhyfeddol o feddwol a blasau glân hyfryd o seleri a chiwcymbr. Gwahanol iawn i fodca ond dymunol iawn.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​