Stillers Silk Roots

English | Cymraeg

Ein barn ar Stillers Silk Roots

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob 100ml: 0
Sgôr: 3 o 5

Hyd y gwyddom ni, y ddiod yma o ddistyllfa’r Hen Gerbyty yn Nhrefynwy yw’r wirod ddi-alcohol gyntaf o Gymru.

Dŵr ffynnon Cymru yw’r cynhwysyn cyntaf, ond mae’r rhan fwyaf o’r blasau eraill yn hanu o fröydd mwy dwyreiniol o dipyn. Fel mae enw’r ddiod a’r camel ar y botel yn ei awgrymu, cafodd y ddiod yma ei hysbrydoli gan y teithiau hir ar hyd y canrifoedd i ddod â sbeisiau gwerthfawr o ddwyrain Asia i Ewrop. Sinamon yw’r blas sy’n dod drwodd yn gryfaf – bron fel teisen – gyda chardamom yn dynn ar ei sodlau. Yn sicr, does yr un ddiod sy’n debyg i hon!

Prynon ni Silk Roots, a’i chwaer-ddiod Celtic Myst, yn syth o’r ddistyllfa.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​