Stride Pale Lager

English | Cymraeg

Ein Barn Ar Stride Pale Lager

Sgôr:

4/5

Cryfder: llai na 0.5%
Calorïau ymhob can: 33
Sgôr: 4 o 5

Lansiodd Dave a Hannah gwrw Stride yn 2021, pan oedd y cyfan o’r wlad dan glo. Diod isotonig yw hi ac wedi’i hanelu’n bwrpasol at athletwyr, ac yn ôl ei chreawdwyr, “fydd hi ddim difetha’ch perfformiad nac yn eich gadael chi’n simsan bore trannoeth”.

Nawr ’te, mae pawb yn gwybod fod diodydd isotonig yn ffefryn mawr gan y rhai sy’n hoffi cystadlu yn y campau, ond dyw’r rhan fwyaf ohonyn nhw ddim yn debygol o ennill medalau am flas. Beth wnewch, felly? Bachu cwrw a chefnu ar yr ymarfer corff? Neu gadw ati efo’r elicsirau isotonig melys a llachar eu lliwiau? Wel, diolch i’r cwrw isotonig prin-ei-alcohol yma, does dim rhaid i chi wneud y fath ddewis.

Mae Stride yn cael ei fragu i fod yn brin iawn o alcohol, ond mae’n gyforiog o electrolytau, fitaminau a mwynau. Ac mae’n blasu fel...wel, fel cwrw crefftus da. Felly, fydd eich sesiwn gyda’r hwyr ddim yn amharu ar y bore nesaf. Cewch chi’r gorau o’r ddeubeth, gan mai cyn lleied yw cryfder y cwrw yma fel na fydd yn gwanhau eich cyhyrau.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​