Superbock Pilsner

English | Cymraeg

Ein Barn Ar Superbock Pilsner

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob potelaid: 78 (23 ymhob 100ml) Sgôr: 5 o 5

Cwrw Portiwgalaidd braf yw Superbock Pilsner, wedi’i greu gan un o fragwyr blaenaf y wlad honno. Yn ôl y sôn, mae e wedi’i gynhyrchu trwy broses ddad-alcoholeiddio unigryw nad yw’r tarfu ar yr eplesu nac yn difetha’r blas. Er na wyddon ni union fanylion y broses, gallwn ni dystio fod y blas yn bell o fod wedi’i ddifetha. A dweud y gwir, mae’n arbennig o dda. At ei gilydd, ni welwn ni ddim o’i le ar y cwrw yma. Mae’n blasu’n agos iawn ar Superbock arferol gyda chryfder o 5% ABV, ac roedd yn atgoffa ein panel profi o wyliau haf ym Mhortiwgal erstalwm! Mae’n ysgafn, ffres a llawn blas. Anodd peidio â’i hoffi.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​