Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob 100 ml: 23
English | Cymraeg
Ein barn ar Tall Tales Zero.
Sgôr:
4/5
Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob 100 ml: 23
Cwrw gwelw wedi’i ysbrydoli gan grocodeil chwedlonol
Mae Bragdy Butcombe yn creu cwrw ym Mryste ers yr 1970au, ond mentr fwy diweddar iddyn nhw yw cwrw di-alcohol. Yn gyntaf oll, daeth y ddiod dra blasus Goram IPA Zero, ac yn dynn ar ei sodlau, dyma Tall Tales Zero.
Y peth cyntaf sylwon ni arno oedd y cartŵn o grocodeil ar y botel. Yn ôl y sôn, mae’r cwrw wedi’i ysbrydoli gan yr ymlusgiad chwedlonol y ‘Bristol Croc’, creadur mae sawl un yn y fro wedi honni ei weld yn nofio’n rhydd yn Afon Avon.
Mae llawer un arall wedi wfftio’r chwedl, ond beth bynnag yw’r gwir, mae’n weddol sicr bydd y cwrw yma yn tynnu dŵr o ddannedd cwsmeriaid (a crocodeiliaid hefyd, o bosib). Mae bywiogrwydd ffrwythus iddo, gyda chydbwysedd apelgar o chwerwder a melystra, a nodau grawnffrwyth a phinafal. Llai o hopys na’r disgwyl, ond dymunol iawn er hynny!
Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.