Tarquin's Cornish Dry

English | Cymraeg

Ein barn ar Tarquin's Cornish Dry.

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.5%

Calorïau ymhob 100ml: Dim gwybodaeth

Tarquin's Cornish Dry: diod ddi-alcohol o safon i gymryd lle eich hoff jin.

Dyma fentr gyntaf Southwestern Distillery i’r farchnad ddi-alcohol. Ac mae’n ddechrau da! Wedi’i chreu gan sylfaenydd y ddistyllfa, Tarquin Leadbetter, darparu’r un blasau meryw, sitrws a blodau â jin alcoholaidd y cwmni yw’r nod.

Mae hi wedi’i distyllu efo perlysiau arfordir Cernyw, gan gynnwys blodau’r grug, helyg y môr, briallu, a halen môr y fro. Dyw’r rhain ddim yn flasau byddai ein panel profi yn mynd amdanyn nhw fel arfer. Ond mae’n amlwg fod rhywun yn gwybod ei bethau, a diod flodeuog, lân, finiog a phleserus yw’r canlyniad.

Gorau oll ei hyfed gyda thonic a rhew mâl.

Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​