Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob can: 73 (17 ymhob 100ml)
Sgôr: 3 o 5
Tennents Zero
English | Cymraeg
Ein barn ar Tennents Zero
Sgôr:
3/5
Mae Tennent’s yn enwog am fragu lager, a lager cryf at hynny. Ydyn nhw wedi llwyddo, felly, wrth geisio creu cwrw cwbl ddi-alcohol?
Mae hwn wedi’i wneud o farlys yr Alban, hopys, a dŵr glân gloyw o Loch Ceiteirein yn yr Ucheldiroedd, a daw mewn can glas golau deniadol. Mae iddo liw euraidd hyfryd a mwy o flas hopys nag sydd mewn lager arferol. Mae mymryn o garamel yn yr adflas.
At gilydd, rhaid dweud nad yw’n gwrw hynod iawn. Does yma ddim byd arbennig o annisgwyl. Ond mae’n ddiod ddigon dymunol.
Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.