Tesco Finest Sparkling Chenin Blanc

English | Cymraeg

Ein barn ar Tesco Finest Sparkling Chenin Blanc

Sgôr:

1/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob gwydryn 250ml: 158 (474 ymhob potel)
Sgôr: 1 o 5


Pan lansiwyd gwinoedd di-alcohol newydd Tesco yn 2016, honnwyd eu bod nhw “bron cystal â’r peth go-iawn”. Mae’n anodd i ni gytuno.

Gwaith y gwinwr Hermias Hugo o Dde Affrica yw hwn. Mae fe i’w weld yn dipyn o giamster ar ei grefft, ond nid hwn yw ei waith gorau.

Mae’n tywallt yn dda gyda llwyth o swigod, ac mae ganddo liw hyfryd. Ond mae’n rhy nwyog a llawer rhy felys. Efallai mai dyna sy’n esbonio pam mae ganddo fwy na dwywaith y calorïau sydd yn rhai o’r gwinoedd ar y tudalen yma.

Mae’r corcyn plastig yn eithaf gwael hefyd, gan wneud i’r cyfan deimlo braidd yn rhad.

O’i blaid, gallwn ni nod ’fod e’n addas i lysieuwyr.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​