& Then Cabernet Sauvignon

English | Cymraeg

Ein barn ar & Then's Cabernet Sauvignon.

Sgôr:

4/5

Cryfder: <0.05%
Calorïau ymhob 100ml: 20

Cawson ni’r gwin coch Awstraliaidd yma ym Morrison’s yn 2023, ac roedden ni’n eithaf bodlon arno. Mae’n hanu o winllannoedd De Awstralia, lle mae’r tywydd fymryn yn oerach na rhai rhanbarthau gwinllannol eraill y wlad. Mae wedi’i wneud o rawnwin Cabernet Sauvignon ar gryfder gwin arferol ac wedyn wedi’i ddad-alcoholeiddio. Mae ganddo liw coch dwfn, arogl mwyar duon braf, a blas cytbwys – heb y melystra sy’n difetha rhai gwinoedd di-alcohol. Mae tipyn o adflas chwerw, fydd ddim at ddant pawb, er bydd rhai eraill wrth eu bodd.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​