Three Spirit Nightcap

English | Cymraeg

Ein barn ar Three Spirit Nightcap

Sgôr:

2/5

Cryfder: 0%

Calorïau ymhob 100ml: 34

Mae Three Spirit ar drywydd creu diodydd perlysieuol i gymryd lle rhai alcoholaidd gan “ddathlu’r hyn sy’n mynd i mewn i’ch diod, nid yr hyn sy’n cael ei dynnu allan ohoni”. Mewn geiriau eraill, maen nhw’n anelu at gynhyrchu diodydd gallwch chi deimlo’n hyderus eu hyfed yn lle alcohol. A hwrê am hynny!

Mae Nightcap ar gyfer diwedd y dydd – diod i’ch ymlacio a’ch llonydd yn hytrach na’ch bywiogi a’ch ymegnïo. Mae’r blas yn lled gyfarwydd, fel cwrw sinsir da, gan roi rhyw losg bach dymunol yng nghefn eich llwnc. Mae hefyd is-flasau prennaidd rhyfedd nad oeddwn i’n eu hoffi gymaint, a bod yn onest.

Wrth gael ei chymysgu â diod fyrlymus felys, mae Three Spirit Nightcap yn ychwanegu cymhlethdod at y blas, gan gydbwyso melystra gormodol rhai mixers arferol. Rhoddon ni gynnig ar ambell un o’r syniadau am eu gweini sydd ar y wefan, ac roedden ni’n teimlo’n hwyliau ni’n gwella. Ai’r Three Spirit oedd hi, ynteu pleser chwarae gwneud coctels? Bydd eisiau i chi ei phrofi drosoch eich hun er mwyn gwybod hynny.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​