Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 68
English | Cymraeg
Ein barn ar Virtuous Pale Ale.
Sgôr:
4/5
Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 68
Sefydlwyd Cwmni Bragu Kirkstall yn gyntaf oll yn 1833, ar lannau Afon Aire yn Leeds, gan fragu cyrfau poblogaidd a’u hallforio trwy’r byd am ganrif a hanner. Atgyfodwyd y brand yn 2011 ac mae’r Bragdy Kirkstall newydd yn cynhyrchu mwy na deg ar hugain o wahanol fathau o gwrw, o gwrw melyn i gwrw du.
Y cwrw gwelw ysgafn a bywiog yma yw eu cwrw di-alcohol cyntaf. Daw mewn can deniadol gyda dwy durtur ynghanol canghennau torchog yr hopys. Wrth ei dywallt, mae ganddo arogl hopys braf a blas chwerw miniog. Fel llawer cwrw di-alcohol, mae e fymryn yn denau. Ond, at ei gilydd, dyma ddiod hafaidd ddymunol iawn.
Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.