Wheesht

English | Cymraeg

Ein Barn Ar Wheesht

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob potelaid: 53 (16 ymhob 100ml)
Sgôr: 3 o 5

Wedi’i sefydlu yn 1983, mae Harviestoun yn un o fragdai mwyaf adnabyddus yr Alban ac yn ffefryn gan lawer o garedigion cwrw go-iawn gyda’u casgliad o gyrfau amrywiol, a llygoden fach annwyl ar bob un. Mae cryfder eu diodydd yn amrywio rhwng 4% ac 8% ABV. Y cwestiwn yw: allan nhw wneud cwrw da ar 0%?

Mae’r enw Wheesht yn dod o’r iaith Sgoteg, lle mae’n cyfateb i’r gair Cymraeg “ust”. Mae’r bragwyr yn cydnabod bod creu Wheesht wedi bod yn “her wirioneddol i’r tîm bragu...yn wahanol i bob dim wnaethon nhw o’r blaen”. Fel St. Peter’s Without, a gafodd ei lansio yn ôl yn 2016, mae e wedi’i fragu’n gwbl ddi-alcohol – sy’n dipyn o gamp – yn hytrach na chael ei ddad-alcoholeiddio.

Yn ôl Harviestoun, mae Wheesht yn “gwrw coch tywyll gyda aroglau siocled rhost, bisgedi melys a ffrwythau sych”. Yn anffodus, doedden ni ddim yn cael y fath gymhlethdod yn y blas. Mae yma ddigon o hopys chwerw braf, wedi’u cydbwyso gan frag dwfn, cryf, ac at ei gilydd, mae e’n gwrw traddodiadol di-alcohol digon dymunol, ond un sydd heb fod yn eithriadol.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​