Whitley Neill Raspberry and Rhubarb and Ginger

English | Cymraeg

Ein barn ar Whitley Neill Mafon a Rhiwbob a Sinsir

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob 100ml: 26

Mae gwreiddiau distyllfa Whitley Neill i’w cael mor bell yn ôl ag 1762, a hi o hyd yw’r unig ddistyllfa jin yn hen Ddinas Llundain. Maen nhw’n cynhyrchu amrywiaeth fawr o wirodydd gyda chynhwysion sy’n amrywio o bîn-afal i giwcymbr. Y ddwy ddiod yma – a lansiwyd yn 2022 – yw eu cynnyrch di-alcohol cyntaf, hyd y gwyddom ni.

Yn wahanol i’r rhan fwyaf o wirodydd di-alcohol, mae’r rhain yn flasus ar eu pennau eu hunain – ond gorau oll eu cymysgu gyda thonic da. Does yma ddim o’r sawr blodeuog sy’n difetha sawl diod yn yr un categori. Yn wir, mae ganddyn nhw flasau ffrwythus hyfryd iawn. Mae’r naill un wedi’i gwneud gyda rhiwbob a sinsir, wedi’i hysbrydoli gan erddi cefn gwlad Lloegr. Mafon yr Alban yw sylfaen y llall. Maen nhw ill dwy fymryn yn felys ond heb fod yn llethol.

Fel pob un o ddiodydd Whitley Neill, mae’r poteli yn brydferth tu hwnt, yn deilwng o un unrhyw silff neu gwpwrdd diodydd.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​