Willy’s Organic

English | Cymraeg

Ein barn ar Willy’s Organic.

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob 100ml: 70

Finegr afalau yw’r ddiod yma. Dim ond finegr sydd ynddi. Dim byd arall.

Finegr da yw e, yn sicr, gyda blas a lliw afalau ffres o ansawdd, o berllan organig yn sir Henffordd. Er hynny, efallai bydd e’n rhy sur i rai, ac mae’r gwneuthurwyr yn awgrymu ychwanegu lemwn a mêl ato er mwy gwneud diod. (Maen nhw hefyd yn awgrymu ei gymysgu ag olew er mwyn gwneud dresin salad, neu ei roi mewn smwddi).

Yn ôl Willy Chase, “mae’r moddion naturiol yma wedi gwneud gwyrthiau i mi” ond, er mwyn cydbwysedd, dylen ni ddweud fod y dystiolaeth am fanteision iechyd yfed finegr yn gymysg.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​