Cryfder: 0%
Calorïau ymhob 100ml: 140
Willy’s Organic: Mêl a Thyrmerig
English | Cymraeg
A review of Willy’s Organic: Mêl a Thyrmerig.
Sgôr:
4/5
Mae’n debyg fod Willy Chase yn gyfarwydd i lawer o’n darllenwyr. Ffermwr o sir Henffordd yw e sydd wedi rhoi i’r byd greision Tyrell a chasgliad o wirodydd. Am ei fod yn hanu o sir Henffordd – bro perllannau Lloegr – efallai na ddylid synnu iddo gychwyn busnes finegr afalau. Ac mae’r afalau ar gyfer ei finegr i gyd yn dod o’i berllannau organig ei hun.
Rhaid fod hon yn un o’r diodydd hynotaf buon ni’n eu blasu. Yn wahanol i rai diodydd finegr, nid oes yma ddim sudd ffrwythau; dim ond finegr afalau, tyrmerig, mêl a phupur du, gan roi iddi flas mwy sawrus, llai melys. Mae’r gwneuthurwyr yn awgrymu ei gymysgu ag olew er mwyn gwneud dresin salad, a gallwn ni weld hynny’n gweithio’ dda. Fel diod efallai bydd hi’n apelio’n fwy i’r rhai sy’n hoffi blasau hallt yn fwy na rhai melys.
Fel pob finegr gan y cwmni yma, mae hwn i fod yn llawn bacteria sy’n llesol i’ch perfeddion. Mae’n cael ei ddisgrifio ar y botel fel “elicsir pwerus, wedi’i ddefnyddio ers achau i gadw salwch draw a hybu iechyd”. Er mwyn cydbwysedd, dylen ni ddweud fod y dystiolaeth am fanteision iechyd finegr “byw” yn bell o fod yn gwbl gadarn.
Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.