Wolf Blass Shiraz

English | Cymraeg

Ein barn ar Wolf Blass Shiraz.

Sgôr:

2/5

Cryfder: llai na 0.5%

Calorïau ymhob 100ml: 24

Cyrhaeddodd Wolfgang Franz Otto Blass Awstralia o’r Almaen yn 1961. Roedd ei bocedi’n wag ond ei ben yn llawn syniadau am wneud gwin. Mae’r cwmni rhoddodd e ei enw arno wedi tyfu i fod yn un o brif gynhyrchwyr gwin Awstralia, ac mae ei winoedd – gydag eryr ehedog ar bob potel – i’w gweld mewn siopau led-led Prydain.

Ynghyd â Sauvignon Blanc, mae’r Shiraz yma yn un o’u mentrau cyntaf yn y farchnad ddi-alcohol. Gwelon ni fe yn gyntaf yn Sainsbury’s ystod Ionawr Sych 2023. Mae’r botel yn drwsiadus ei diwyg, ac wrth ei dywallt mae gan y gwin liw coch dwfn ac arogl dymunol. Mae’r broliant ar y label yn addo “nodau aeron tywyll a sbeis cynnil”. Gwaetha’r modd, doedd ein panel profi ddim yn canfod llawer o’r rheini. Mae’n wir fod y ddiod yma heb ei difetha gan y melystra mawr sy’n amharu ar gymaint o winoedd 0.5%. Ond efallai ei bod yn mynd yn rhy bell y ffordd arall – hyd at surni.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​