Zeno Alcohol Liberated Sparkling White

English | Cymraeg

Mae wedi’i wneud o rawnwin Macabeo

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.3%

Calorïau ymhob 100ml: 9

Mae’r gwin pefriog di-alcohol yma gan Zeno yn teimlo fel diod i oedolion. Mae wedi’i wneud o rawnwin Macabeo – sy’n hanu o ardal Rioja ac i’w cael yn aml mewn Cava. Felly, does ryfedd fod y strwythur, sychder a blas y gwin yma’n gyfarwydd.

Ar y tafod, mae’n sych, ysgafn ac adfywiol, a heb fod yn rhy felys. Gallwch chi flasu nodau cryf o afalau gwyrdd a blodau’r ysgaw, gyda nodau sitrws yn dynn ar eu sodlau. Mae’r asidrwydd yn rhoi siâp i’r ddiod heb ddod yn lethol nac yn rhy finiog.

Mae’r adflas yn lân gyda mymryn o asidrwydd sydd amlwg ond heb fod yn ormodol. Cawson ni ambell Cava di-alcohol o’r blaen oedd yn ymylu ar fod yn sur, ond mae hwn gan Zeno yn aros yr ochr iawn i’r ffin yna. Dyw bwrlwm y swigod ddim yn rhy gryf, gan greu ddiod lyfn ac adfywiol.

Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​