Fungtn Chaga Lager

English | Cymraeg

Ein barn ar Fungtn Chaga Lager

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob potelaid: wrthi’n aros gwybodaeth
Sgôr: 4 o 5

Lager di-alcohol ychydig yn wahanol yw hwn, gan ei fod wedi’i fragu gyda madarch. Cyn i chi ruthro i chwilio am rywbeth arall i’w yfed, cofiwch fod angen arbrofi weithiau!

Cafodd y cwrw yma ei lansio yn ystod Cyfnod Clo 2020 gan Zoey Henderson, sy’n arbenigwr ar yfed “gofalgar”. Yn ystod taith i Galiffornia, cafodd hi wybod am fathau arbennig o fadarch sy’n cael eu defnyddio’n mewn moddion traddodiadol mewn sawl rhan o’r byd.

Beth yw pwrpas madarch mewn cwrw? Yn ôl Fungtn, mae natur startslyd y madarch yn rhoi tipyn o drwch i’w diodydd nhw heb orfod troi at gynhwysion mwy artiffisial. Maen nhw hefyd i fod yn iachusol i’r corff a’r enaid. Byddwch chi’n falch o glywed nad yw’r cwrw yn blasu dim tebyg i gawl madarch! Yn hytrach, mae’n annisgwyl o siocledus, tebyg i lager tywyll Ewropeaidd.

Allwn ni ddim dweud y naill ffordd neu’r llall ydy’r ddiod yma yn “dda i chi”, ond gan ei bod yn ddi-alcohol fe allai fod yn opsiwn i’r sawl sy’n trio diota llai. Mae e hefyd yn ddi-glwten ac yn addas i figaniaid. Efallai dylech chi roi cynnig arno.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​