Go Pilsner

English | Cymraeg

Ein barn ar Go Pilsner

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob can: 125 (25 ymhob 100ml)
Sgôr: 5 o 5

Weithiau, y pethau mwyaf annisgwyl yw’r mwyaf diddorol, ac mae hynny, yn sicr, yn wir am y pilsner tra blasus yma a aeth ar werth tua diwedd 2020.

Hyd y gwyddom ni, dyma’r cwrw cyntaf o Lithwania i ni ei flasu a’i farnu ar gyfer y tudalennau hyn. Cafodd Bragdy Švyturys, yn nhref Klaipėda, ei sefydlu yn 1784 ac mae’n un o fragdai hynaf y wlad. Mae cryfder eu “casgliad traddodiadol” yn amrywio rhwng 5% a 8% ond maen nhw hefyd yn arbenigwyr ar gwrw 0.5%, fel mae’r pilsner yma yn ei ddangos.

Mae iddo liw euraidd hyfryd a digon o ewyn wrth ei dywallt. Mae ganddo frathiad bach neis, heb ddim o’r melystra sy’n amharu ar rai diodydd dirwestol. Byddai’n anodd rhagori arno.

Yn Lithwania, mae Go Pilsner ar werth gyda chwrw gwelw a chwrw ŷd o’r un bragdy, ill dau hefyd yn 0.5%. Hyd y gwyddom ni, dim ond y pilsner sydd ar werth yn yr ynysoedd hyn ar hyn o bryd. Cawson ni fe yn Sainsbury’s.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​