Lowlander 0.3% Cool Earth Lager

English | Cymraeg

Ein barn ar Lowlander 0.3% Cool Earth Lager

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.3%
Calorïau: TBC
Sgôr: 4 o 5

Dyma adolygiad gan ein hawdur gwadd Henry Forrest o flog yr Alcohol-Free Explorers. Cewch chi Henry ar Twitter @HoppyAF

Sefydlwyd bragdy Lowlander yn 2016 ac maen nhw’n enwog am fragu cwrw perlysieuol. Dwedan nhw eu bod nhw am “fragu ar gyfer pobl sy’n dymuno diodydd blasus sy’n groes i’r arferol”. “Cyfuno natur ac ychydig bach o ddyfeisgarwch yr Iseldirwyr” yw eu nod. Dechreuodd Frederik Kampman ddwlu ar berlysiau wrth weithio mewn distyllfa jin yn Lloegr, gan fagu chwilfrydedd mawr am sut i ddefnyddio perlysiau, ffrwythau a sbeis mewn cwrw.

Mae Lowlander yn cynnig detholiad o gyrfau alcoholaidd a di-alcohol. Ar hyn o bryd mae gyda nhw dri chwrw di-alcohol (hyd at gryfder o 0.3%). O’r rheini, dwi wedi bod yn yfed eu Cool Earth Lager, sy’n gwrw gyda neges glir am newid hinsawdd. Mae Lowlander wedi ymroi i blannu planhigyn gwellt y môr am bob can o Cool Earth sy’n cael ei wrthu. Mae gwellt y môr yn dal carbon 35 gwaith yn gyflymach na choedwig law drofannol – ar adeg ysgrifennu’r erthygl yma, roedden nhw wedi plannu mwy na 105,000 o’r fath blanhigion. Pob parch!

Wrth agor can oer o Cool Earth, mae arogl melystra a sitrws. Wrth ei dywallt, mae iddo liw ŷd euraidd a chlir. Mae’n rhyfeddol o lyfn, mymryn yn felys, gydag ychydig o sitrws – mae’n taro pob targed i mi. Plisner cytbwys yw e a dyw un can ddim yn ddigon.

Pwnc mawr yw newid hinsawdd ar hyn o bryd, am resymau da. Os ydych chi’n yfwr cydwybodol, beth am wneud gyfraniad bach i’r achos trwy gefnogi cwmni sy’n trio gwneud i gyfraniad ei hunan. Ac fe gewch chi gwrw blasus hefyd!

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​