Sainsbury’s Pilsner Zero

English | Cymraeg

Ein barn ar Sainsbury’s Pilsner Zero

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob potelaid: 120 (24 ymhob 100 ml)
Sgôr: 5 o 5

Yn ôl pob golwg, mae’r cwrw melyn hyfryd yma o Ffrainc wedi disodli Lager Tsiecaidd Sainsbury’s fel eu prif lager di-alcohol o dan eu brand eu hunain yn 2021, ac mae’n ddiod well o dipyn.

Er gwaetha’r label ddi-fflach, dyna gwrw melyn Cyfandirol gwirioneddol dda. Mae iddo liw euraidd tywyll a digon o ewyn wrth ei dywallt. Mae ynddo fymryn mwy o hopys nag ambell lager masnachol arferol ac mae’n nesáu at fod yn lager crefftus. Os ydych chi’n hoffi cwrw gyda digon o flas ynddo, efallai dylech chi roi cynnig arno. Cawson ni sawl cwrw gwaeth na hwn ar 4% neu 5%.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​