Smashed Lager

English | Cymraeg

Ein barn ar Smashed Lager

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob can: 76 (23 ymhob 100ml
Sgôr: 3 o 5

Mae’r cwrw melyn di-alcohol yma yn un bump diod gan Drynks Unlimited o ardal Manceinion. Ar ôl syllu ar silffoedd siopau llawn diodydd gorfelys a llawn swigod, gofynnon nhw i griw o fragwyr dawnus “roi i ni wydraid o rywbeth sy’n teimlo, yn gwynto ac yn blasu fel y stwff sydd orau gennyn ni, ond heb yr alcohol”.

Mae eu diodydd yn cael eu creu o ddiodydd alcoholaidd o’r cryfder arferol, a’r alcohol wedyn yn cael ei dynnu allan trwy broses o’r enw gwag-ddistyllu oer. Beth yw’r canlyniad? Mae’n gwrw digon dymunol, rhaid dweud. Mae debyg mewn sawl ffordd i Heineken Zero ond mymryn yn fwy chwerw. Dyw e ddim yn gwrw cymhleth, does dim blasau annisgwyl, ond mae’n sicr o dorri syched.

Daw Smashed Lager mewn pecyn twt o bedwar can, a chawson ni fe ar werth yn Sainsbury’s.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​