Warsteiner Premium Fresh

English | Cymraeg

Ein barn ar Warsteiner Premium Fresh

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob potelaid: 76 (23 ymhob 100ml)
Sgôr: 4 o 5

Fel Franziskaner Weissbier, cwrw ac iddo dipyn o hanes yw hwn. Yn ôl yn 1753, roedd y ffermwr Antonius Cramer yn gorfod talu treth ar ei gwrw cartref am y tro cyntaf. Roedd e bellach yn bragu digon i fod yn fusnes, ac roedd yr awdurdodau eisiau eu siâr o’r elw. Nid oedd yr ergyd hon i’w goffrau yn ddigon i fwrw Antonius oddi wrth ei echel, diolch byth, a dwy ganrif a hanner wedyn mae’r nawfed genhedlaeth o’r tylwyth yn dal i ddarparu cwrw o safon.

Yn ôl y bragwyr, y dŵr meddal lleol, a hwnnw’n cael ei dynnu o ffynnon yn y parc natur lle saif y bragdy, yw’r cynhwysyn allweddol. O ran y cynhwysion eraill, dim ond barlys, hopys a burum yw’r rheini, yn unol â deddf purdeb cwrw Ganoloesol yr Almaen.

Cwrw sy’n tywallt yn dda, gyda lliw hyfryd, yw’r canlyniad. Er bod yr ewyn ar y top yn dueddol o ddiflannu’n eithaf buan, mae blas lager da arno fe. Teg yw dweud, o blith y cyrfau melyn di-alcohol, bod hwn yn un o’r goreuon.

Mae gan Warsteiner Premium Fresh yr un diwyg urddasol â chyrfau eraill y bragdy, ac mae yma wers i nifer o rai eraill (fel San Miguel a Sainsbury’s). Mae cwrw’n gwerthu’n well os yw e’n edrych yn dda.

Yn 2016, cafodd y brand dipyn hwb pan gafodd sêl bendith Jürgen Klopp, rheolwr Clwb Pêl-droed Lerpwl (er na fydd hysbysebion gyda fe am y cwrw yn cael eu dangos y tu allan i’r Almaen, o bosibl am fod Lerpwl yn cael eu noddi gan Carlsberg).

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​