Big Drop Pine Trail

English | Cymraeg

Ein barn ar Big Drop Pine Trail

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob can: (18 per 100ml)
Sgôr: 3 o 5

Mae Big Drop yn un o lwyddiannau mawr y bwrlwm dirwestol sydd wedi chwyldroi’r byd bragu yn y blynyddoedd diwethaf. Wedi’i sefydlu ar raddfa fach yn 2016, maen nhw bellach ymhob man, gyda chasgliad amrywiol o ddiodydd, gan gynnwys y cwrw Pine Trail yma.

Rydyn ni’n dal yn ansicr am ystyr yr enw. Mae’n gwneud i ni feddwl am deithiau cerdded hir trwy goedwigoedd – efallai mai dyna oedd y bwriad! Mae ganddo liw euraidd hyfryd ac mae digon o fywyd ynddo. Mae ynddo hefyd fwy o hopys na holl gaeau hopys Henffordd, ac er bod mymryn o felystra i’w flasu, roedd e’n rhy chwerw i’n panel profi. Ond os hopys yw eich diléit, cerwch amdani.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​