Fungtn Reishi Citra

English | Cymraeg

Ein barn ar Fungtn Reishi Citra

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau: 99 (30 ymhob 100 ml)
Sgôr: 3 o 5

Dyma adolygiad gan ein hawdur gwadd Henry Forrest o flog yr Alcohol-Free Explorers. Cewch chi Henry ar Twitter @HoppyAF

Funtgn yw’r bragdy cyntaf sy’n bragu cwrw di-alcohol “adaptogenic”. Sefydlodd Zoey Fungtn gan gyfuno ei hoffter am gwrw di-alcohol â’i diddordeb mawr mewn “mycoadaptogens”. Beth yw “mycoadaptegens”? Cwestiwn da. Yn bôn, moddion traddodiadol ydyn nhw, wedi’u gwneud o fadarch, ac maen nhw i fod i leddfu effeithiau straen ar y corff. Un o fanteision cyfnod clo 2020 i Zoey oedd fod gyda hi ddigon o amser i wthio’r cwch i’r dŵr a chychwyn ei mentr bragu o ddifri: “Gan newid sut mae pobl yn meddwl am yfed, a gan ddod â dewisiadau mwy gofalgar a doethineb hynafol i ddefodau ein bywydau beunyddiol”.

Tri chwrw yw craidd casgliad Funtgn: Chaga Lager, Lion’s Mane IPA a Reishi Citra Beer – yr un bues i’n ei yfed. Mae diwyg pob potel yn defnyddio’r un siapiau isomedrig, gyda llun syml a phrydferth o fadarch. Mae lliw gwahanol i wahaniaethu rhwng y tair diod wahanol.

Mae’r Reishi Citra yn tywallt yn dda gyda lliw ŷd gwelw cymylog hyfryd. Wrth i chi agor y botel mae arogl lager clasurol yn taro’ch trwyn. Roedd y ddiod ychydig yn rhy fyrlymog i mi, ond ar wahân i hynny mae blasau priddlyd dwfn lager a brag. Dyma gwrw melyn brasach na’r rhan fwyaf. Mae awgrym cynnil o sitrws ac mae’n gorffen gyda adflas chwerw ond dymunol.

Dyma gwrw braf iawn, ac oes gyda chi ddiddordeb ym manteision iechyd posibl madarch, mae’n werth i chi roi cynnig arno.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​