Sleight of Hand

English | Cymraeg

Ein barn ar Sleight of Hand

Sgôr:

2/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob can: wrthi’n aros gwybodaeth
Sgôr: 2 o 5

Dyma adolygiad gan ein hawdur gwâdd Trevor Twohig

Mae’r Tempest Brewing Co. yn hanu o Galashiels yn neheubarth yr Alban. Yn ôl pob golwg, maen nhw’n dilyn trywydd y to newydd o fragwyr modern, gyda lliwiau llachar ac ieithwedd bowld.

Rhaid i mi ddweud, mewn marchnad ddi-alcohol sy’n mynd yn fwyfwy llawn trwy’r amser, doedd y cwrw yma ddim arbennig o gofiadwy. Mae ynddo rai o elfennau cwrw gwelw traddodiadol, fel y nodau sitrws, ond roedd hefyd flas myglyd, bron fel lludw, oedd ddim at fy nant i.

Mae’n dod mewn can coch lliwgar, gyda llaw las yn dal llygad. Efallai bydd e’n apelio at rai o’r genhedlaeth newydd o yfwyr sobr, ond i mi roedd y blas yn methu’r nod.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​