Unltd IPA

English | Cymraeg

Ein barn ar Unltd IPA

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau per bottle: 128 (64 ymhob 100ml)
Sgôr: 4 o 5

Math hen iawn o gwrw yw IPA, gyda’i wreiddiau yn y ddeunawfed ganrif. Mae e hefyd yn un o gyrfau mwyaf poblogaidd yr unfed ganrif ar hugain, fel y gwelwch chi os cewch chi gip ar silffoedd cwrw crefftus eich archfarchnad leol. Braf iawn fod cwrw di-alcohol fel hwn yn ymuno â’r criw.

Roedd sylfaenydd Bragdy Unltd, Johnny Johnson, wedi syrffedu i’r fath raddau ar chwilio am ddiodydd di-alcohol da, nes mynd ati i greu ei gwrw ei hun. Dechreuodd e trwy greu cwrw melyn, ac erbyn hyn mae hefyd y cwrw gwelw yma, gyda’r un diwyg trwsiadus o ddu a lliw metelaidd.

Mae gan y cwrw ei hunan liw euraidd, golau, ac mae digon o fywyd ynddo fe. Mae’n llawn hopys, ac os yw cwrw gwelw gyda digon o hopys at eich dant, mae’n debyg bydd hwn yn eich plesio’n fawr. Mae hefyd yn rhyfeddol o brin o galorïau.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​