La Gioiosa

English | Cymraeg

Ein barn ar La Gioiosa

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob gwydraid 250ml: 65 (26 per 100ml)
Sgôr: 4 o 5

Gwelon ni’r gwin gwyn pefriog yma o ogledd yr Eidal yn gyntaf yn Ngorffennaf 2021, ar yr union adeg roedd llawer ohonom yn chwilio am ddiodydd neis at yr haf. A dyna’n union yw hon: diod hafaidd ddymunol. Er ei fod yn brin o frathiad gwin pefriog sych da, mae ganddo flas miniog dymunol, gydag awgrym o afalau gwyrdd ffres. Yn wahanol i lawer diod yn y categori hwn, dyw hi ddim wedi’i difetha gan felystra gormodol. A bod yn gwbl onest, dyw hi ddim yn win, ond dyw hi ddim yn wael chwaith.

Ystyr “Gioiosa” yn Eidaleg yw “gorfoleddus”. Dwi ddim yn siŵr fyddai ein panel profi yn mynd mor bell â hynny, ond roedden nhw, yn sicr, yn ei mwynhau!

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​