Clean G

English | Cymraeg

Ein barn ar Clean G

Sgôr:

3/5

Cryfder: Dim mwy na 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 24
Sgôr: 3 o 5

Cafodd CleanCo ei sefydlu yn 2019 er mwyn cynnig “detholiad o ddiodydd blasus di-alcohol i gymryd lle eich hoff wirodydd”. Roedd gan eu diodydd gryfder o 1.2% ar y dechrau, ond cafodd hwnnw ei leihau yn ddiweddarach i 0.5%, gan eu gwneud fwy neu lai’n ddi-alcohol, yn enwedig ar ôl eu cymysgu gyda tonic neu gola.

Roedd Clean G yn un o ddiodydd cyntaf CleanCo. Daw mewn potel wyrdd tywyll chwech-ochrog drawiadol iawn. Mae arogl meryw hyfryd arni, a meryw yw’r prif flas hefyd – yn union fel jin Llundeinig traddodiadol. Yn anffodus, mae’r blas braidd yn wan ac yn mynd ar goll dipyn mewn tonic.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​