Cryfder: dim mwy na 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 24
Sgôr: 5 o 5
Clean G Rhiwbob
English | Cymraeg
Ein barn ar Clean G Rhiwbob
Sefydlwyd cwmni diodydd CleanCo er mwyn cynnig “diodydd di-alcohol soffistigedig i oedolion, gyda llawer llai o galorïau”. Ar y dechrau roedd gan eu diodydd gryfder o 1.2% ond maen hwnnw bellach wedi dod i lawr i 0.5% neu lai. Lansiwyd Clean G Rhiwbob yn 2021 ac mae hi’n un o’i diodydd gorau hyd yn hyn.
Fel pob un o ddiodydd CleanCo, mae hon yn dod mewn potel chwech-ochrog dwt gyda naws yr 1920au yn ei chylch. Mae gan y ddiod ei hunan liw pinc hyfryd, blas sur treiddgar fel rhiwbob newydd ei goginio, a rhyw awgrym o arogl siop losin hen-ffasiwn, efallai. Mae hi’n un o’r ychydig iawn o wirodydd di-alcohol sy’n blasu’n dda ar ei phen ei hun; wedi’i chymysgu gyda thonic, mae’n rhagorol!
Prynwch eich diodydd diod alcohol a phrin-eu-halcohol nawr!
Pan brynwch chi ddiodydd gan Drydrinker a Wise Bartender gan ddefnyddio’r dolenni hyn, bydd Alcohol Change UK yn cael cyfran o’r elw, gan helpu ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.