Lyre's American Malt & Cola

English | Cymraeg

Ein barn ar Lyre's American Malt & Cola

Sgôr:

5/5

Gwirod Swyddogol Ionawr Sych 2022

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob can:
73 (29 per 100ml)
Sgôr: 5 o 5

Mae diwyg deniadol glas ac aur y ddiod yma yn mynd â ni yn syth i Orllewin Gwyllt America, gyda delweddau hyfryd o gacti, hetiau cowboi, ac arth fraith fawr.

Wedi’i thywallt – gorau oll mewn gwydryn tal gyda rhew a leim – mae’n gwynto’n union fel bourbon a chola, ac mae ganddi liw browngoch tywyll. Yn fras, dwfn, a bron fel siocled, gyda blas cymhleth o fanila a rhyg, mae rhywbeth cynhesol am y blas, gan wneud i chi eisiau setlo mewn cadair esmwyth wrth goelcerth o dân gyda llyfr da. Da iawn Lyres, am ddiod hyfryd ar gyfer ei llymeitian ar ôl cinio!

Bachwch eich Lyre’s yma. Defnyddiwch y côd DRYJAN20 i gael 20% oddi ar bris pob potelaid 70cl o wirodydd

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​