Mockingbird Spirit

English | Cymraeg

Ein barn ar Mockingbird Spirit

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob 100ml: 24
Sgôr: 4 o 5

Mae sylfaenydd Mockingbird, Fern McCoy, yn hoff iawn o fwyd a diod Mecsicanaidd, gan gynnwys tecila. Ond, fel mae hi’n dweud, nid pawb sydd am yfed alcohol bob tro. Ac felly fe aeth hi ati i geisio creu diod ddirwestol a fyddai lawn cystal â thecila traddodiadol.

Yn union fel tecila arferol, mae Mockingbird wedi’i gwneud o agafe glas o Fecsico, ynghyd â fanila, lemwn, a pupurau habanero sbeisiog a myglyd. Mae yma hefyd fymryn o ffrwyth o’r enw ashwagandha, sy’n gynhwysyn ym meddyginiaethau traddodiadol yr India.

Felly, ydy creawdwyr Mockingbird wedi llwyddo yn eu hymdrech i greu “gwirod sydd i’w gweld a’i theimlo yn union fel tecila traddodiadol” – fel mae’r aderyn gwatwar yn dynwared adar eraill? Rhaid i ni ddweud fod hon yn ddiod ddymunol iawn. Mae yma flas agafe hyfryd a thipyn o gic sbeisiog. Mae’n gynhwysyn defnyddiol ar gyfer gwneud sawl math o goctel. Yn ein barn ni, dyw hi ddim yn debyg iawn i decila, ond mae’n werth rhoi cynnig arni.

Mae Mockingbird hefyd wedi cydweithio â chwmni diodydd Fortitude yn Essex i greu cwrw gyda blas tecila. A dweud y gwir, roedden ni’n hoffi hwnnw dipyn bach yn fwy.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​