Seedlip Spice 94 parod

English | Cymraeg

Ein barn ar Seedlip Spice 94 parod

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob can: 60 (24 ymhob 100ml)
Sgôr: 4 o 5

Dyma adolygiad gan ein hawdur gwâdd @GlowSober

Man cychwyn Seedlip oedd arbrofion sylfaenydd y cwmni, Ben Branson, gyda ryseitiau’r meddyg John French o’r ail ganrif ar bymtheg. Ar ôl ychydig flynyddoedd o ferwino’r cymysgedd, mae Seedlip bellach yn un o wirodydd botanegol mwyaf adnabyddus Prydain.

Mae rhywbeth mor soffistigedig ynghylch y can bach yma: nid y diwyg yn unig ond hefyd y blas. Gwnes i’r gorau o belydrau olaf yr haul wrth yfed hwn tua’r machlud, ac roedd blasau’r sbeisiau yn fy nghynhesu’n addfwyn wrth i’r noson oeri. Mae cytgord cytbwys hefyd rhwng y tonic grawnffrwyth a’r nodau sitrws o dano fe, ar y cyd â’r sbeisiau powld sy’n dal eu tir yn erbyn chwerwder y tonic.

Rhoddais i dipyn o lemwn yn fy niod i, gan nad oes modd yfed gwirod heb sitrws neu ffrwyth arall, yn fy marn i. Roedd e’n ychwanegu at chwerwder y blas, sy’n gweithio’n dda i mi (er nad i bawb, efallai).

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​